Owen StanleyWILLIAMSDymuna Iona, Aled, Med, Myra a theulu'r diweddar Owen Stanley Williams (Stan) o 36 Ffordd Kyffin, Parc Y Coed, Llangefni ddiolch o galon i bawb am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn ystod eu profedigaeth o golli gŵr, tad a thaid gwerthfawr iawn. Diolch yn fawr am y llu o gardiau, galwadau ffôn, yr ymweliadau a'r rhoddion hael o £1,040 a dderbyniwyd er cof am Stan yn ddiolchgar tuag at Ty Gobaith Conwy. Diolch arbennig i Melvin Rowlands Trefnwyr Angladdau a'i gyd-weithwyr am eu trefniadau urddasol a gofalus, i Mr Seiriol Edwards am ei wasanaeth teimladwy ac i Mr Arwel Jones wrth yr organ. Diolch o galon i bawb.
Keep me informed of updates